Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnig cynllun benthyg blaendal blynyddol i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf / sy’n rhentu tai yng Nghymru.
Y bwriad yw y byddai angen i gwmnïau morgais Cymru gymryd rhan
yn y cynllun hwn hefyd, a chytuno i ofyn am ddim mwy na 5% o
flaendal ar unrhyw eiddo addas (yn ogystal â chynnig morgeisi
llog isel ‘berchen ar yr hyn rydych yn talu amdano). Byddai
hyn, er enghraifft, yn golygu y gellid helpu hyd at 15,000 o bobl
yng Nghymru sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf (prynwyr tro
cyntaf y mae eu henillion yn is na throthwy penodol ac sydd wedi
byw neu weithio yng Nghymru yn barhaus am o leiaf 10 mlynedd, neu
sydd â chysylltiadau busnes llawn-amser â Chymru) gyda
benthyciad blaendal o tua £7,500 yr un ar gyfer tŷ pris
cyfartalog, gyda’r broses o dalu’r benthyciad yn
ôl yn cael ei gohirio am o leiaf blwyddyn. Unwaith y bydd
gwerthwyr a phrynwyr yn cytuno ar y cynllun, byddai’r eiddo
dan sylw yn cadw ei gymal meddiannaeth cymwys, fel sy’n
digwydd yn achos cynlluniau tebyg ym mharciau cenedlaethol y Peak
District a North York Moors.
Gwybodaeth Ategol:
Er na all Llywodraeth Cymru ymyrryd ag eiddo preifat, mae’n bosibl y gellid annog perchnogion, gan gynnwys perchnogion ail gartrefi, i ystyried gwerthu drwy'r cynllun os byddant yn penderfynu gwerthu eu heiddo. Dylai’r rheini sy’n adnewyddu eiddo adfeiliedig / ffermdai am y tro cyntaf hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Y bwriad yw y byddai asiantau tai Cymru a’r gwerthwyr tai yn cael ffi misol (a delir gan y llog ar y benthyciadau blaendal) i gymryd rhan yn y cynllun gwirfoddol, drwy gytuno i hysbysebu, gwerthu neu rentu yng Nghymru, ac i ddinasyddion cymwys yng Nghymru yn unig ar gyfer y 6 mis cyntaf ar ôl i eiddo gael ei roi ar y farchnad. Ar ôl chwe mis, byddai’n agored i unrhyw un.
Byddai'r cynllun hwn yn helpu i roi cyfle i deuluoedd ac unigolion i fyw a gweithio yn eu hardaloedd au hunain a byddai’n golygu na fyddant yn cael eu prisio allan o'r farchnad gan gymarebau afresymol o ran cyfartaledd cyflog a phrisiau eiddo. Byddai hefyd yn sicrhau bod mwy o arian yn aros o fewn economïau lleol, gan roi hwb i economi Cymru yn gyffredinol a’i wneud yn fwy cynaliadwy a chynhyrchiol.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013
Nifer y llofnodion : 17